Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.Y rôlBydd deiliad y swydd yn gweithio mewn tîm rhyngddisgyblaethol sy'n cwmpasu’r adrannau Gwyddor Data a Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe a bydd yn cyfrannu at is-astudiaeth ansoddol a fydd yn canolbwyntio ar agweddau cymunedol at newid hinsawdd ac iechyd, yn enwedig ymhlith menywod beichiog a theuluoedd. Nod yr is-astudiaeth hon yw dylanwadu ar strategaethau ymgysylltu â'r cyhoedd a chyfathrebu'r prosiect i sicrhau'r effaith fwyaf a sicrhau bod canfyddiadau'n cael eu lledaenu'n effeithiol.Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o ddadansoddi data ansoddol, gan gynnwys hyfedredd gyda meddalwedd NVivo, a chefndir cryf mewn seicoleg neu ddisgyblaethau cysylltiedig. Bydd yn cyfrannu at ymgysylltu'n effeithiol ag aelodau'r cyhoedd i recriwtio ar gyfer yr astudiaeth, casglu data, dadansoddi data, ysgrifennu adroddiadau, a chydweithio â thîm ehangach MAGENTA a Grŵp MAGENTA PPIE.Cydraddoldeb, Amrywiaeth a ChynhwysiantMae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.Sgiliau CymraegLefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig.Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.Gwybodaeth YchwanegolGallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.