Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.Y rôlSwydd amser llawn am gyfnod penodol o 12 mis yw hon.Bydd deiliad y swydd hon yn gweithio yn nhîm busnes y Platfform e-Ymchwil Diogel (SeRP) ac ar draws timau SeRP ehangach i hwyluso rheoli a datblygu tenantiaethau SeRP yn barhaus, gan gyflawni'r swyddogaethau canlynol:
Rheoli gweithrediadau beunyddiol tenantiaethau'r Platfform e-Ymchwil Diogel (SeRP), gan gynnwys hwyluso swyddogaethau busnes a thechnegol
Arwain perthnasoedd â rhanddeiliaid mewnol ac allanol i gyflawni rôl SeRP wrth ddarparu gwasanaethau platfform ymchwil o safon
Datblygu a gwella prosesau y cytunwyd arnynt â rhaglenni a thenantiaethau SeRP, gan gynnwys cyflwyno a rheoli polisïau a gweithdrefnau
Cynorthwyo timau Gweinyddu a Datblygu Busnes SeRP wrth adennill costau, rhagfynegi a rheoli cyfrifon ar gyfer tenantiaethau SeRP
Bod yn rheolwr llinell i weinyddwyr SeRP yn ôl yr angen er mwyn gweithredu portffolio SeRP
Datblygu arfer gorau wrth weinyddu platfform ymchwil, gan gynnwys goruchwylio gweithrediadau rheoli data, mynediad at ddata a rheoli defnyddwyr
Rheoli rhyngweithiadau rhwng timau mewnol i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i ddefnyddwyr terfynol gwasanaethau technegol SeRP, gan gynnwys arwain cyswllt rhwng timau busnes, cyfreithiol, data a thechnegol
Cael adborth a bod yn gyfrifol am ei weithredu, ar ôl i'r addasiadau gael eu cwblhau gyda'r uwch-reolwyr
Hyfforddi defnyddwyr terfynol y platfform SeRP wrth ymgysylltu â nhw am y tro cyntaf ar gyfer mynediad at ein platfformau ymchwil, gan ddefnyddio fframweithiau presennol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a ChynhwysiantMae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.Sgiliau CymraegLefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig.Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.Gwybodaeth YchwanegolGallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.