Cynorthwy-ydd Cyllid

Swansea University

  • Porth, Rhondda Cynon Taf Swansea
  • Contract
  • Full-time
  • 7 days ago
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.Y rôlDyma swydd am gyfnod penodol tan 31 Gorffennaf 2026, yn gweithio 17.5 awr yr wythnos.Er mwyn cyflawni ei huchelgais cynaliadwy o fod ymysg y 30 o brifysgolion gorau, mae angen gweithlu gwasanaethau proffesiynol ar Brifysgol Abertawe â'r sgiliau amrywiol i sicrhau y gall gyflawni rhagoriaeth drwy systemau a phrosesau effeithlon ac effeithiol sy'n manteisio ar ddatblygiadau technolegol
Gan gynorthwyo'r Uwch-swyddogion Incwm, bydd yr unigolyn hwn yn gyfrifol am roi cyngor ac arweiniad proffesiynol a hyderus ar incwm i gydweithwyr, ynghyd â chysylltu â chwsmeriaid, gan sicrhau bod y canlyniadau'n cyd-fynd â gweledigaeth strategol y Brifysgol. Bydd yn deall yr amgylchedd busnes lleol a sefydliadol, yn nodi risgiau, yn cynnig dealltwriaeth graff ac atebion hyblyg ac arloesol. Bydd yn gwerthuso ei effaith ei hun ac effaith y swyddogaeth Cyllid yn barhaus, i wella fel gweithiwr proffesiynol a hyrwyddo'r swyddogaeth Incwm.
1. Gweithio heb lawer o oruchwyliaeth ac mewn ffordd hyblyg i gefnogi'r Uwch-swyddogion incwm wrth ddarparu gwasanaethau cyllid proffesiynol, effeithlon sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.
2. Cyfrannu at gynnal y swyddogaeth incwm o ddydd i ddydd er mwyn sicrhau bod canlyniadau'n cael eu cyflawni'n brydlon.
3. Defnyddio gwybodaeth arbenigol i gynorthwyo gyda rheoli'r cylch incwm o gymeradwyo gwerthiannau i reoli dyled.
4. Cysylltu â chydweithwyr a chwsmeriaid am faterion technegol gan wneud penderfyniadau a rhoi barn fel y bo'n briodol i'r rôl.
5. Defnyddio gwybodaeth a data gwrthrychol i gynghori cydweithwyr o ran adnabod risgiau a chyfleoedd i sicrhau gweithredu'n briodol.
6. Cefnogi'r Uwch-swyddogion Incwm a chydweithwyr i gymhwyso Polisïau a Gweithdrefnau ariannol yn deg, yn gyson ac yn gywir.
7. Echdynnu a gwerthuso data gan sicrhau bod gwybodaeth o safon yn cael ei chyflwyno i helpu i wneud penderfyniadau.Cydraddoldeb, Amrywiaeth a ChynhwysiantMae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.Sgiliau CymraegLefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig.Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.Gwybodaeth YchwanegolGallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
  • Gradd neu brofiad perthnasol cyfwerth.
Mae'r holl feysydd Gwasanaethau Proffesiynol ym Mhrifysgol Abertawe yn gweithredu yn ôl cyfres ddiffiniedig o Werthoedd Craidd - - a disgwylir i bawb allu dangos ymrwymiad i'r gwerthoedd hyn o'r adeg cyflwyno cais am swydd i gyflawni eu rolau o ddydd i ddydd. Mae ymrwymiad i'n gwerthoedd ym Mhrifysgol Abertawe yn ein cefnogi wrth hyrwyddo cydraddoldeb ac wrth werthfawrogi amrywiaeth er mwyn defnyddio'r holl ddoniau sydd gennym.

Swansea University