Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.Y rôlBydd y Cynorthwy-ydd Ymchwil neu'r Swyddog Ymchwil (gan ddibynnu ar brofiad) yn gweithio ar brosiect Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol ‘Adweithiau a reolir yn gylchdroadol’, dan arweiniad Dr Helen Chadwick yn yr Adran Gemeg, sydd â’r nod o ddefnyddio rheolaeth cyflwr cwantwm i newid cyfradd adweithiau moleciwlau cyflwr isaf, plisgyn caeedig mewn gwrthdrawiadau ag arwynebau.Bydd y prosiect yn cynnwys defnyddio a datblygu ymhellach dechneg ymyrraeth trin magnetig unigryw sy'n caniatáu rheoli cyflyrau tafluniad cyfeiriadedd cylchdro moleciwlau fel hydrogen cyn iddynt wrthdaro â'r arwyneb er mwyn astudio'r effaith y mae hyn yn ei chael ar adweithedd y moleciwlau ag arwynebau am y tro cyntaf. Bydd hefyd yn estyn mesuriadau prawf cysyniad ar drosglwyddo ynni moleciwlau ar arwyneb, er mwyn ymchwilio a yw hyn hefyd yn ddibynnol ar gyflwr tafluniad cyfeiriadedd cylchdroadol y moleciwl. Bydd y prosiect yn cyfuno cynnal gwaith arbrofol a gwaith cyfrifiadol i ddadansoddi data, yn ogystal â datblygu dulliau arbrofol a dadansoddol a fydd yn cael eu defnyddio drwy gydol y gwaith.Cydraddoldeb, Amrywiaeth a ChynhwysiantMae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.Sgiliau CymraegLefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig.Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.Gwybodaeth YchwanegolGallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.