Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.Y rôlMae'r BioHYB Cynhyrchion Naturiol yn brosiect cydweithredol rhwng diwydiant a'r byd academaidd sydd â'r nod o gyflymu datblygiad ac arloesi cynhyrchion o organeddau byw sy'n hyfyw yn economaidd. Mae'n defnyddio galluoedd ymchwil presennol a modelau busnes arloesol i hwyluso'r daith o ddarganfod i fasnacheiddio. Mae hyn yn cynnwys canolbwyntio ar ddatblygu cymwysiadau biotechnolegol algâu a darganfod cynhyrchion naturiol. Y nod yw ymchwilio i gynhyrchion naturiol, datblygu prosesau arloesol, goresgyn heriau rheoleiddiol a hwyluso dichonoldeb masnachol cynhyrchion newydd, gan ysgogi arloesi ym maes technoleg werdd a chefnogi cynaliadwyedd byd-eang.Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm ymchwil amlddisgyblaethol presennol ac yn darparu cymorth i weithgareddau ymchwil parhaus ynghylch organebau cyfan neu gyfansoddion a gynhyrchir gan ficrobau. Bydd y prif ddyletswyddau'n cynnwys cynnal a chadw meithriniadau pryfed a ffwngaidd, biobrofion, profion effeithiolrwydd mewn amgylcheddau rheoledig a maes, eplesu solet/hylif, a phrosesu 'downstream'.Bydd y Technegydd hefyd yn cynnal a chadw'r labordy ac yn gwneud gwaith monitro arferol yno, gan sicrhau cydymffurfiaeth ag achrediad. Bydd cymorth technegol yn cynnwys cefnogi'r Tîm Ymchwil yn y Ganolfan yn ogystal â chymorth i unrhyw weithgareddau allgymorth ac astudiaethau maes.Cydraddoldeb, Amrywiaeth a ChynhwysiantMae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.Sgiliau CymraegLefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig.Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.Gwybodaeth YchwanegolGallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.